top of page

BYWGRAFFIAD

Llio Evans Promo Photo

Llun: Sian Trenberth

Yn wreiddiol o Ynys Môn, enillodd y soprano, Llio Evans, radd dosbarth cyntaf o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru cyn mynd ymlaen i dderbyn MA gydag anrhydedd o Academi Llais Rhyngwladol Cymru. Yn enillydd sawl gwobr gan gynnwys Gwobr Goffa Osborne Roberts, Gwobr Dame Anne Evans, a Gwobr Ryng-Golegol Russell Sheppard, mae Llio yn gyn-aelod o Opera Ieuenctid Prydain ac Opera Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a bu hefyd yn Artist Ifanc Alvarez gyda Garsington Opera lle derbyniodd Wobr Leonard Ingrams.

​

Tymor hwn bydd Llio yn adfywio ei pherfformiad fel Phyllis yng nghynhyrchiad canmoladwy Charles Court Opera o Iolanthe say's mind ar faith dros yr haf. Mae hi hefted yn dychwelyd i Opera North fel Countess Almaviva yn Whistle Stop Figaro (yn seiliedig ar Le nozze di Figaro) ac hefted fel Pamina, Queen of the Night a The White Rabbit yn Little Listeners: Mini Magic Flute.

​

Mae rhai o'i uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys Celia Iolanthe i English National Opera; Elsie Maynard The Yeomen of the Guard, Rose Maybud Ruddigore a Josephine yn HMS Pinafore i Opera Holland Park; Iris Semele i Garsington Opera; ; Melanto Il ritorno d'Ulisse in patria a Zerlina Don Giovanni i Longborough Festival Opera; Modestina Il viaggo a Reims and Cilla in Waxwings for English Touring Opera; Fairy Godmother Little Listeners: Cinderella for Opera North. 

​

Mae Llio hefyd wedi perfformio a datblygu nifer o weithiau cyfoes dros y blynyddoedd, gan gynnwys Beatrice ym mhremier y DU o Three Decembers (Jake Heggie) gyda Opera Della Luna yn Wilton's Music Hall;​The Little One ym mhremier y DU o The Golden Dragon (Peter Eötvös) i Music Theatre Wales; Gwen Shoulder to Shoulder (Lenny Sayers) gyda Swansea City Opera; Leader of the Council The Wish Thief (Leighton Jones) gyda Royal Ballet and Opera Youth Opera. Mae hi wadi recordio rhan Y Fon yn opera Gymraeg newydd Stephen McNeff a Gruff Rhys, 2117/Hedd Wyn, ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru sydd wedi'i gynhyrchu gan Tŷ Cerdd. Mae hi hefyd wedi cydweithio hefo nifer mwy o gyfansoddwyr ac ysgrifennwyr drwy brosiect Make an Aria hero Music Theatre Wales a chynllun Tuag Opera gyda Tŷ Cerdd.​

 

Mae perfformiadau nodweddiadol eraill yn cynnwys Musetta La Bohème (Opera d'Amore); Clorinda La Cenerentola (HighTime Opera); Blonde Die Entführung aus dem Serail (Pop-Up Opera); Yum-Yum The Mikado, Gretel Hansel and Gretel (Co-Opera Co.) a Susanna The Marriage of Figaro a Pamina The Magic Flute (Opera’r Ddraig). Mae hi hefyd wedi dirprwyo rhannau Nuria Ainadamar (Scottish Opera);Despina Così fan tutte a Mimi Vert-Vert (Garsington Opera); ac Ilia Idomeneo (English Touring Opera). Gellir clywed Llio yn canu rhan Barbe ar grynoddisg o The Beauty Stone gan Arthur Sullivan gyda Cherddorfa Genedlaethol Cymru y BBC, o dan arweiniad Rory Macdonald ar label recordio Chandos.​

​

Fel artist cyngerdd cyson, mae Llio wedi ymddangos ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru ac S4C. Me either pherfformiadau gyda Cherddorfa Cenedlaethol Cymreig y BBC yn cynnwys unawdydd soprano yn The Danube gan Janáček o dan arweiniad Otto Tausk ar BBC Radio 3; unawdydd a chyflwynydd rhaglen Nadolig BBC NOW Christmas Classics From Around The World ar BBC Radio Wales o dan arweiniad Adrian Partington; a Gweddi gan Arwel Hughes o dan arweiniad Owain Arwel Hughes ar gyfer BBC Radio 3.

 

 

Mae rhai o'i uchafbwyntiau eraill diweddar yn cynnwys Mendelssohn Elijah yn St John's Smith Square yn y Three Choirs Festival gyda Philharmonia Orchestra ac hefyd ung Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru; Schubert Der Hirt auf dem Felsen  yn Leicester International Music Festival gyda Mark Simpson a Katya Apekisheva; Bach Schweigt stille, plaudert nicht hefo Ensemble Cymru; unawdydd ar gyfer y 26ain Ŵyl Corau Meibion Cymru Llundain yn y Royal Albert Hall. Mae Llio hefyd wedi canu mewn datganiadau i  Garsington Opera, Gŵyl Gerddorol Caerdydd, Gŵyl Gerddorol Abertawe, Gŵyl Gerddorol Llandeilo, Gŵyl Gerddorioaeth Glasurol Conwy, ac Ensemble Cymru. Mae hi hefyd wedi curadu a pherfformio datganiad ym Mhrifysgol Caerdydd, Etifeddiaeth/Legacy, gyda'r pianydd Jâms Coleman yn dathlu cyfansoddwyr Cymreig sydd â chysylltiad â'r Brifysgol, ac mae hi hefyd yn rhaglennu a pherfformio cyfres o ddatganiadau blynyddol yn Capel Curig o'r enw Mountain Lieder i Head on Out gyda'r pianydd Charlotte Forrest.

​​​​​

Yn ystod y cyfnod clô fe rannodd Llio parodïau o ganeuon ar y cyfryngau cymdeithasol i geisio ledaenu llawenydd. Ers hynny mae hi wedi bod yn ysgrifennu rhagor o barodïau (yn Gymraeg ac yn Saesneg), cyfieithiadau o ganeuon yn ogystal a deunydd gwreiddiol ar gyfer  yr Eisteddfod Genedlaethol, Noson Lawen, yr Ŵyl Gerdd Dant, Charles Court Opera, Shakespeares Schools Foundation a Chorws Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae Llio yn gweithio fel animateur ar gyfer prosiect Future Directions gyda Music Theatre Wales a hi hefyd yw llywydd ar Côr Meibion Aberhonddu a'r Cylch.

​

Plîs cysylltwch â Steven Swales am fywgraffiad diweddar.

bottom of page